Math | llyfrgell genedlaethol, archif, cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, oriel gelf, llyfrgell |
---|---|
Cysylltir gyda | John Gwenogfryn Evans |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Glan-yr-afon |
Sir | Ceredigion |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Cyfesurynnau | 52.414384°N 4.068469°W |
Rheolir gan | Llywodraeth Cymru |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Sefydlwydwyd gan | John Williams |
Manylion | |
Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, yw llyfrgell adnau cyfreithiol cenedlaethol Cymru ac mae'n cael ei chynnal dan nawdd Llywodraeth Cymru. Hon yw'r Llyfrgell fwyaf yng Nghymru, gyda dros 6.5 miliwn o lyfrau a chyfnodolion, a'r casgliadau mwyaf o archifau, portreadau, mapiau a delweddau ffotograffig yng Nghymru.
Mae'r Llyfrgell hefyd yn gartref i Archif Sgrin a Sain Genedlaethol Cymru, Archif Wleidyddol Cymru, Archif Lenyddol Cymru, a'r casgliad mwyaf cynhwysfawr o bortreadau a phrintiau topograffyddol yng Nghymru. Fel y brif lyfrgell ac archif ymchwil yng Nghymru ac fel un o lyfrgelloedd ymchwil mwyaf y Deyrnas Gyfunol, mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn aelod o Lyfrgelloedd Ymchwil y DG (RLUK) a Chonsortiwm Llyfrgelloedd Ymchwil Ewrop (CERL).
Yn ôl ei Siartr, amcanion y Llyfrgell Genedlaethol yw "casglu, diogelu a rhoi mynediad at bob math a ffurf ar wybodaeth gofnodedig, yn enwedig mewn perthynas â Chymru a Chenedl y Cymry a phobloedd Celtaidd eraill, er budd y cyhoedd, gan gynnwys y rhai sy’n ymroi i ymchwil a dysg".[1]
Mae'r Llyfrgell ar agor chwe diwrnod yr wythnos ac mae mynediad i'r holl arddangosfeydd am ddim. Gellir chwilio holl ddaliadau a gweld nifer o gasgliadau diddorol y Llyfrgell ar eu gwefan.[2]